You are here: Projects » Cydgysylltydd Dwyrain-Gorllewin » Digwyddiadau'r Prosiect
Email a Friend Email a Friend
Cydgysylltydd dwyrain-gorllewin. Atgyfnerthu diogelwch cyflenwad. Hyrwyddo cynnydd cystadleuaeth. Hybu twf ynni adnewyddadwy. Caniatáu mynediad uniongyrchol i’r farchnad ynni Prydeinig helaeth

Digwyddiadau'r Prosiect

Dechreuodd gwaith adeiladu’r Cydgysylltydd Dwyrain-Gorllewin yn 2009 a disgwylir iddo orffen yn 2012. Ar hyn o bryd mae’r prosiect yn y broses gaffael gyhoeddus.

Manylion peirianyddol a thechnegol

Mae’r Cydgysylltydd Dwyrain-Gorllewin yn cynnwys 2 gebl tanfor â diamedr o 150 o filimetrau. Mae’r rhain yn gweithredu o dan Gerrynt Union Foltedd Uchel (HVDC) ac mae ganddynt gyd-gynhwysed o 500 MegaWatt (MW).

Rhai ystadegau eraill am y ceblau:

  • Hyd y cebl tanfor: oddeutu 185 KM / 80 o filltiroedd.
  • Hyd y cebl trostir yn Iwerddon: oddeutu 45 KM / 8 milltir.
  • Hyd y cebl trostir yng Nghymru: oddeutu 29KM / 11 milltir.

Mannau cysylltu

Mae’r ceblau’n cael eu gosod ar wely’r môr er mwyn cysylltu Prydain ag Iwerddon rhwng y mannau canlynol:

  • Rush Bay, Co. Dublin yn Iwerddon
  • Gogledd Cymru ym Mhrydain.

Ar y tir mae’r ceblau’n cael eu gosod mewn ffosydd a dorrwyd yn arbennig. Mae’r ffosydd hyn yn cysylltu’r ceblau â’r gorsafoedd trawsyrru y mae eu hangen i gwblhau’r cysylltiad â’r gridiau trydan cenedlaethol. Mae’r gorsafoedd hyn yn:

  • Woodside, Co. Meath, Iwerddon
  • Glannau Dyfrdwy, Gogledd Cymru, Prydain.

Cydgysylltyddion sy’n bodoli eisoes

Eisoes mae un cydgysylltydd rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain. Mae’n cysylltu Gogledd Iwerddon â’r Alban (Cydgysylltydd Moyle).

Mae hefyd Cydgysylltydd rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon. Y Cydgysylltydd Dwyrain-Gorllewin hwn fydd y cydgysylltydd cyntaf rhwng Gweriniaeth Iwerddon a Phrydain.

Trwyddedau a chyllid

Mae’r prosiect hwn wedi’i drwyddedu gan y rheoleiddwyr ynni yn Iwerddon ac yn y DU:

  • Commission for Energy Regulation (Iwerddon)
  • OFGEM (DU).

Nid yw’r gyllideb ar gyfer y prosiect hwn wedi cael ei gyhoeddi eto. Ar hyn o bryd mae cystadleuaeth ariannu’n cael ei chynnal i ganfod noddwyr ariannol.