Trosolwg
Mae EirGrid yn adeiladu cysylltiad a elwir y ‘Cydgysylltydd Dwyrain-Gorllewin’ rhwng gridiau trydan Iwerddon a Phrydain. Bydd y cydgysylltydd yn caniatáu i gwmnïau trydan yn Iwerddon fewnforio ynni ychwanegol o Brydain yn ôl yr angen.
Bydd y cydgysylltydd yn helpu i sicrhau bod gan Iwerddon ddigon o drydan bob amser i ddiwallu ei hanghenion yn y dyfodol. Gellir hefyd ei ddefnyddio i allforio unrhyw ynni dros ben a gynhyrchir yn Iwerddon i farchnadoedd ym Mhrydain.
Darllenwch fwy am fuddion y Cydgysylltydd Dwyrain-Gorllewin newydd.
Diogelu’ch iechyd a’r amgylchedd – bob amser
Pan fo pobl yn clywed am y prosiect hwn, yn aml maent yn pryderu am yr effaith y gallai ei chael ar eu hiechyd – yn ogystal ag ar yr amgylchedd.
Fodd bynnag, nid oes angen poeni.
Mae llawer o astudiaethau gwyddonol wedi cael eu gwneud i’r effeithiau mae’r Meysydd Trydanol a Magnetig (EMF) sy’n cael eu creu gan linellau p?er yn eu cael ar iechyd. Nid oes unrhyw un ohonynt wedi canfod unrhyw dystiolaeth o gysylltiad arwyddocaol rhwng meysydd o’r fath a salwch pobl. Un o’r buddion cysylltiedig yw sefydlu nifer o ganllawiau rhyngwladol sy’n gwarantu lefel uchel o ddiogelwch iechyd i chi. Ein polisi yw cydymffurfio â’r safonau hyn yn llawn bob amser.
Rydym yn addo na
fyddwn byth, trwy wybod, yn eich peryglu chi na’r amgylchedd o ganlyniad i’n
gwaith.
Gwaith adeiladu a’r cynnydd hyd yma
Mae’n anochel, gyda phrosiect o’r maint hwn, y bydd rhywfaint o darfu yn ystod y gwaith adeiladu. Fodd bynnag, byddwn yn cydweithio â chynghorau lleol a grwpiau cymunedol i leihau unrhyw broblemau cymaint ag sy’n bosibl.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau – gallwch gysylltu â ni bob amser i ofyn beth sy’n digwydd.
Cewch wybod sut yr ydym yn lleihau effaith y gwaith adeiladu ar eich cymuned.

