Diogelwch
Mae’ch iechyd a’ch diogelwch yn gwbl ylfaenol i’n ffordd ni o weithredu. Rydym yn addo na fyddwn byth, trwy wybod, yn eich peryglu chi o ganlyniad i’n gwaith.
Eich iechyd chi a Meysydd Trydanol a Magnetig (EMF)
Mae’r rhan fwyaf o'r bobl sy’n cysylltu â ni ynghylch y prosiect hwn yn pryderu am Feysydd Trydanol a Magnetig (EMF). Mewn termau sylfaenol, y man lle gall gwrthrych trydanol neu fagnetig ddylanwadu ar rywbeth arall yw EMF.
Er enghraifft, gall sychwr gwallt effeithio ar dderbyniad eich set deledu, os yw’r set o fewn cyrraedd i’w EMF. Mae’r un peth yn wir am unrhyw gyfarpar trydanol, o chwaraewyr MP3 i linellau p?er foltedd uchel.
Cewch
ddarllen esboniad llawn o beth yw EMF.
Eich pryderon
Rydym yn hyderus nad oes angen i chi boeni am EMF fel problem ar y prosiect hwn.
Dros y 30 mlynedd diwethaf mae llawer o astudiaethau gwyddonol wedi cael eu gwneud i effeithiau EMF ar iechyd pobl. Mae’r rhain yn cynnwys gwaith gan gyrff megis:
- Sefydliad Iechyd y Byd (WHO)
- Bwrdd Cenedlaethol Diogelu Radiolegol (NRPB) yn y DU
- Asiantaeth Ryngwladol Ymchwil i Ganser (IARC)
Nid yw’r un ohonynt wedi canfod unrhyw dystiolaeth o gysylltiad arwyddocaol rhwng meysydd o’r fath a salwch pobl.
Mae’r astudiaethau hefyd wedi galluogi cyrff megis International Commission on Non-Ionizing Radiation Protection (ICNIRP) a’r Comisiwn Ewropeaidd i lunio argymhellion ar gysylltiad ag EMF. Mae’r rhain yn gwarantu lefel uchel o ddiogelwch iechyd.
Gallwch fod yn dawel eich meddwl bod ein rhwydwaith yn gweithio ymhell y tu mewn i’r safonau hyn.
Atebion i’ch cwestiynau
Er bod y dystiolaeth yn awgrymu’n gryf nad yw EMF yn cael effaith negyddol ar iechyd pobl – yn union fel chithau – nid ydym yn barnu bod y mater wedi’i gau.
Rydym wedi ymrwymo i adolygu ymchwil newydd yn ddi-baid er mwyn darparu atebion i’ch cwestiynau.
Os oes gennych bryderon am y prosiect hwn, gallwn drefnu bod arbenigwr iechyd ar gael i chi. Mae croeso i chi gysylltu â ni gyda’ch cwestiynau.
Byddwn bob amser yn ymdrin â’ch ymholiadau ar eu golwg. Byddwn yn ymchwilio iddynt gan ddefnyddio’r wybodaeth orau sydd ar gael ac yn ymateb ar sail honno.
Diogelwch corfforol yn ystod y prosiect
Er mwyn sicrhau y byddwch chi a’ch teulu’n ddiogel yn ystod y prosiect hwn, rydym yn dilyn canllawiau caeth ar gyfer gwaith adeiladu a gwaith trydanol.
Diogelwch adeiladu a’ch plant
Gwaith adeiladu yw rhan gyntaf y prosiect hwn. Mae hyn yn cynnwys:
- Torri ffosydd mawr.
- Defnyddio cyfarpar adeiladu mawr e.e. cloddwyr.
Mae hyn yn golygu bod llawer o’r peryglon arferol sy’n gysylltiedig â datblygiad mawr yn bresennol. Byddwn yn sicrhau bod yna fesurau diogelwch priodol i ddileu’r peryglon hyn cyn belled ag y bo modd.
Datganiad diogelwch ac archwiliadau diogelwch
Byddwn hefyd yn llunio Datganiad Diogelwch i’r prosiect hwn. Bydd hwn yn disgrifio ar lefel uchel sut y byddwn yn rheoli diogelwch wrth i’r gwaith fynd rhagddo. Caiff y ddogfen hon ei chyhoeddi yma cyn gynted ag y bydd yn barod, i chi allu ei darllen.
Hefyd, cyn i ni ddechrau ar unrhyw waith adeiladu byddwn yn gwneud asesiad i ganfod pa beryglon all fod yn bresennol. Os canfyddir unrhyw beryglon, byddwn wedyn yn sicrhau y cânt eu rheoli cyn i’r gwaith ddechrau.
Diogelwch o ran trydan foltedd uchel
Ar ôl i’r gwaith adeiladu gael ei gwblhau - ac ar ôl i’r pŵer ddechrau llifo – peryglon cyfarwydd trydan foltedd uchel yw’r ystyriaeth bwysig.
Oherwydd bod cebl y cydgysylltydd o dan y ddaear, efallai eich bod yn poeni y gallai rhywun ei daro trwy ddamwain wrth gloddio e.e. ffermwr neu blant yn cloddio ar y traeth.
Nid oes angen pryderu am hyn.
Ffosydd dwfn a diogel
Mae’r cebl wedi’i gladdu’n ddigon dwfn fel na ellir dod o hyd iddo’n hawdd. Yn yr un modd mae wedi’i wneud o ddeunydd gwydn iawn ac wedi’i amgylchynu gan nifer o amddiffynyddion diogelwch. Mae hyn yn golygu nad oes modd treiddio iddo, ac eithrio gyda chyfarpar torri trwm.
Wrth gwrs, lle mae’r cebl yn dod i’r wyneb, defnyddir ffensys diogelwch ac amddiffynyddion eraill. Mae’n debyg eich bod yn gyfarwydd â’r rhain mewn is-orsafoedd trydan. Maent yn effeithiol iawn wrth gadw plant, anifeiliaid a phobl eraill i ffwrdd o berygl.
Os oes gennych unrhyw bryderon eraill am ddiogelwch ar y prosiect hwn, cysylltwch â ni ar bob cyfrif.

