Amgylchedd
Mae diogelu’ch amgylchedd yn sylfaenol i’n ffordd ni o weithio. Ni fyddwn byth, trwy wybod, yn peryglu’r amgylchedd ar unrhyw un o’n prosiectau.
Effaith y prosiect hwn ar yr amgylchedd
Mae’r prosiect hwn yn galw am osod cebl ar wely’r môr rhwng Iwerddon a Chymru. Mae angen hefyd gosod y cebl hwn o dan y ddaear am rywfaint o bellter ar y tir.
Ar hyn o bryd rydym yn paratoi adroddiad ar effaith amgylcheddol y prosiect hwn, a gaiff ei gyhoeddi yma cyn gynted ag y bydd wedi’i gwblhau.
Bydd yr adroddiad hwn yn ein helpu i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd cymaint ag sy’n bosibl. Rydym hefyd wedi cyflogi tîm o arbenigwyr i’n cynghori am yr arferion gorau yn y maes hwn.
Yr amgylchedd o dan y môr
Nid yw gosod cebl ar wely’r môr yn fater syml o’i ostwng i’r d?r.
Cyn i’r gwaith gychwyn, rhaid i ni sicrhau ein bod yn dewis y llwybr â’r effaith leiaf bosibl ar yr amgylchedd.
Rydym eisoes wedi gwneud astudiaeth fanwl o Fôr Iwerddon i sicrhau y gellir gosod y cebl yn union lle mae ei angen. Edrychodd yr arolwg hwn ar addasrwydd gwely’r môr ar gyfer cebl o’r fath. Er nad yw’r adroddiadau terfynol wedi cael eu hadolygu eto, mae’r canlyniadau cychwynnol yn dangos mai ychydig o broblemau fydd.
Rydym hefyd yn cyflogi Arsylwr Mamaliaid Morol amser llawn. Bydd yr unigolyn hwn yn sicrhau na chaiff unrhyw niwed ei achosi i anifeiliaid megis morloi, dolffiniaid neu forfilod wrth osod y cebl.
Yr amgylchedd ar y tir
Pan fydd y cebl tanforol yn cyrraedd y tir caiff ei osod yn ddwfn o dan y ddaear hyd nes iddo gyrraedd y gorsafoedd trawsnewid lleol.
Caiff y cebl ei osod gan dorri’r hyn a elwir 'cwndidau'.
Mae hyn yn golygu, yn hytrach na thorri un ffos fawr hir, byddwn yn torri nifer o dyllau bach rhwng 20 a 30 o fetrau oddi wrth ei gilydd ac yna’n tynnu’r cebl trwodd.
Bydd y gorsafoedd trawsnewid lleol yn:
- Woodland, Co. Meath, Iwerddon
- Glannau Dyfrdwy, Gogledd Cymru.
Adeilad yw gorsaf drawsnewid sy’n newid y trydan sy’n cael ei gludo gan y cebl i ffurf y gall deiliaid tai a busnesau ei defnyddio.
Llwybr tanddaearol
Mae llwybr y cebl tanddaearol yn cael ei gynllunio er mwyn osgoi cynifer o leoedd sy’n sensitif yn amgylcheddol ag sy’n bosibl. Lle nad yw hyn yn opsiwn, rydym yn gweithio i sicrhau mai ychydig iawn o effaith a geir.
Er enghraifft, ni fyddwn yn dadwreiddio coedydd ac eithrio lle bo’n angenrheidiol. Byddwn hefyd yn asesu mannau o ddiddordeb archeolegol er mwyn eu hosgoi.
Yn olaf, byddwn hefyd yn adfer ac yn tirweddu’r holl fannau y bydd y gwaith adeiladu wedi effeithio arnynt, i’w hadfer i’w cyflwr naturiol.

