Buddion
Mae’r cydgysylltydd newydd â Phrydain yn gwbl hanfodol i Iwerddon.
Yn gyntaf oll, bydd yn sicrhau y gall ei phoblogaeth gael yr ynni y mae arni ei angen bob amser, heddiw ac yn y dyfodol.
Diogelwch ynni i boblogaeth sy’n tyfu
Mae’r diogelwch ynni hwn yn golygu y gall pawb yn Iwerddon fod yn hyderus bod yna ddigon o b?er i boblogaeth sy’n tyfu o hyd.
Fodd bynnag – yn ogystal â diogelwch ynni – mae gan y cydgysylltydd nifer o fuddion eraill.
Mae’n hybu twf ynni adnewyddadwy yn Iwerddon
Ar ôl i’r cydgysylltydd gael ei osod, gall Iwerddon ddibynnu mwy ar drydan a gynhyrchir gan y gwynt. Mae hyn oherwydd y gall ddefnyddio cyflenwyr y DU fel cyflenwad wrth gefn i ynni gwynt a galw arnynt yn ystod diwrnodau di-wynt yn Iwerddon.
Gellir hefyd allforio trydan sydd dros ben i’r DU ar ddiwrnodau gwyntog yn Iwerddon.
Mae’n caniatáu i gwmnïau o Iwerddon werthu p?er i’r DU ac i’r gwrthwyneb
Stryd ddwy ffordd yw’r cydgysylltydd. Yn ogystal â mewnforio ynni, gall Iwerddon hefyd ei allforio. Golyga hyn y gall cwmnïau o Iwerddon gyflenwi p?er i farchnad y DU.
Gellir mewnforio ynni o’r DU pan fo’n rhatach neu os nad oes digon o drydan yn cael ei gynhyrchu yn Iwerddon.
Trwy gysylltu â grid y DU, gall Iwerddon gael p?er o bob man yn Ewrop (trwy’r cydgysylltyddion o Brydain i’r cyfandir).
Mae’n hybu cystadleuaeth yn y sector trydan
Trwy gysylltu â grid y DU gall Iwerddon gael p?er o bob man yn Ewrop. Bydd hyn yn creu grid ynni llawn i Ewrop a dylai helpu i gadw prisiau’n isel trwy gystadleuaeth.

